Ein haelodau – Consyliaid Anrhydeddus yng Nghymru
Mae Consyliaid Anrhydeddus fel arfer yn ddinasyddion y wlad y maent yn gweithio ynddi yn hytrach na’r wlad y maent yn ei chynrychioli. Ar hyn o bryd, mae gennym 19 aelod sy’n cynrychioli 21 gwlad, sef Belarws, Brasil, Canada, Denmarc, Y Ffindir, Ffrainc, Yr Almaen, Hwngari, Siapan, Gwlad yr Iâ, Israel, Kazakhstan, Yr Eidal, Latfia, Lesotho, yr Iseldiroedd, Rwmania, Slofacia, Sweden, Y Swistir a Gwlad Thai.
Cymwysterau a Phenodi Consyliaid
Penodir aelodau’r Gymdeithas gan eu llywodraeth yn sgil eu rhinweddau personol a’u statws cymdeithasol, sy’n golygu eu bod yn addas i ymgymryd â’u dyletswyddau a chynrychioli eu Gwledydd yn effeithiol. Wrth ddewis Consyliaid Anrhydeddus, caiff y pwyslais ei osod ar allu unigolion i arddangos y galluoedd technegol sydd eu hangen er mwyn ymgymryd â’u dyletswyddau.
Dyletswyddau Consyliaid
Caiff Consyliaid Anrhydeddus eu penodi er mwyn ehangu buddiannau’r wlad y maent yn ei chynrychioli. Eu brîff yw annog gweithgaredd masnachol, academaidd a diwylliannol. Maent hefyd yn ymdrechu i gynorthwyo a gwarchod buddiannau dinasyddion y wlad honno lle bo angen. Caiff yr holl waith ei gyflawni o fewn termau Confensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd. Protocol Rhyngwladol yw Confensiwn Fienna a gafodd ei ddrafftio a’i gytuno gan y Comisiwn Cyfraith Ryngwladol. Cafodd y protocol ei arwyddo gan gynrychiolwyr o’r gwahanol Lywodraethau ar 24 Ebrill 1963. Mae swyddogaeth a gwaith ein haelodau yn amrywio. Ceir rhestr o’u cymwyseddau a’u dyletswyddau cyffredinol yn eu tudalennau proffil unigol [link to overview of all consuls]. Gwirfoddolwyr yw’r Consyliaid Anrhydeddus gan fwyaf ac maent yn cyflawni’r gwaith hwn yn ychwanegol at eu gyrfaoedd unigol.
Thailand
Gwlad Thai